Beth yw ABC?

Mae’r gweithdai hyn yn cynnig gwersi bywyd amhrisiadwy drwy gyflwyno mewn ffordd hwyliog holl elfennau hynod a gwahanol rai o gyfansoddwyr mwyaf y byd, ynghyd â’u cerddoriaeth. Mae hyn yn magu hyder, yn dathlu gwahaniaethau ac yn annog addysg greadigol.
Cafwyd ymateb bositif o 97% i’r gweithdai gan blant ac athrawon.
Yn 2015 aeth ein sefydlydd a’n cyfarwyddwr creadigol ati, drwy ei wybodaeth a’i gariad at opera, i greu profiad trawsgwricwlaidd a fyddai’n datblygu sgiliau plant mewn ffordd holistaidd.

Beth i’w Ddisgwyl

- Bydd plant ac athrawon yn cael eu tywys ar daith ryngweithiol drwy bum canrif wrth iddyn droi’r allwedd ac agor CIST.
- Ceir ymarferion cynhesu, yn lleisiol ac yn gorfforol, i gadw sylw’r plant a’u paratoi.
- Bydd creadigrwydd yn cael ei annog drwy berfformiad, adrodd stori, llwyfannu, gwisgoedd, props a gemau.
- Bydd cyffro yn sgil ymweliad gan ganwr opera proffesiynol a chyfeilydd a fydd yn perfformio gyda’r disgyblion yn yr ysgol.
- Bydd cyfle i’r plant berfformio o flaen yr ysgol, eu teuluoedd a’r gymuned ehangach.
- Mae’n gynhwysol ac yn gwmpasog i bob ysgol, yn targedu pob oedran a gallu.
- Drwy ymchwilio a chwarae, bydd plant yn medru cyfleu eu teimladau’n fwy hyderus a chreadigol.
- Mae’n ymchwilio i ieithoedd a chyfathrebu.
- Mae’n cysylltu hanes y byd, daearyddiaeth, iechyd a lles a datblygiadau cymdeithasol drwy gyfrwng cerddoriaeth a hiwmor. Ymchwilir i nifer o agweddau o’r cwricwlwm, gan gynnwys rhifau, iaith, cynllunio ac ysgrifennu creadigol.
- Mae ein dulliau, sy’n seiliedig ar berfformiad, yn golygu y bydd grwpiau o hyd at 40 disgybl yn cymryd rhan, a’r cyfan dan ofal dau gerddor proffesiynol, canwr opera a chyfeilydd.
- Dwy awr a hanner yw hyd y gweithdy, gan ffitio i amserlen bresennol yr ysgol.
- Mae ein dulliau arbennig yn sicrhau bod nifer uchel o’r disgyblion yn cymryd rhan, yn unigolion neu’n grwpiau.
Ynghyd â’r gweithdai, gall ABC gynnig pecyn athrawon cyffrous a fydd, gobeithio, yn dal eich dychymyg ac yn eich helpu i greu ystafell ddosbarth greadigol.
Mae’r pecyn wedi’i gynllunio er mwyn sicrhau eich bod yn dysgu am fyd yr opera ac yn cael eich cyflwyno i gymeriadau hynod, synau anhygoel, syniadau rhyfeddol a chyfansoddiadau cofiadwy, sef byd yr Academi Benwan.
Byddwch yn ymchwilio i ieithoedd a chyfathrebu, i leoliadau a chyfnodau, yn dysgu am gerddoriaeth, offerynnau, cyfansoddwyr a pherfformwyr, gyda digon o weithgareddau fydd yn adeiladu’n raddol ar wybodaeth a diddordeb plant, gyda’r nod o orffen â pherfformiad. Does dim angen wybodaeth flaenorol arnoch, ond i’r rheini ohonoch sy’n arbenigwyr, mi fydd yn siwrne ddiddorol.
Byddwch hefyd yn cael neges bob pythefnos gan Professore Peri, dyfeisiwr yr opera a phrifathro Academi Benwan y Cyfansoddwyr, gyda sialensau ychwanegol ar y daith.

I’r Plant
Wrth blymio i ganol y llyfr ABC yr Opera cyntaf – Y Baròc – daliwch yn dynn a byddwch yn barod am siwrne gyffrous yng nghwmni Professore Peri, Jac a Megan. Mae’n fyd sy’n llawn syrpreis!
Ar gael yn Gymraeg a Saesneg.
I Deuluoedd
Mwynhewch! Bydd y gweithgareddau’n cadw sylw’r plant ac yn eich tywys chithau hefyd ar yr un siwrne gyffrous. Gwrandewch ar gerddoriaeth glasurol gyda’ch gilydd, neu gwyliwch olygfeydd o’r opera ar YouTube – neu beth am ail-greu rhai ohonynt ar Tik Tok? Mae digon o hwyl i’w gael – a medrwch ddysgu gyda’ch plant.
Felly rhowch dro i’r glob, trefnwch weithdy ac ewch
