Y Tîm

Rydym yn Dîm deinamig a chreadigol, a phawb wedi’u trwytho yn y byd addysg, cerddoriaeth a pherfformio.


Mark Llewelyn Evans

Sefydlydd a Chyfarwyddwr Creadigol

Mario Dubois

Cyfarwyddwr

Formerly a Commissioner at the BBC in the Children and Education department, he has worked on many award winning Children’s’ brand such as Horrible Histories, Operation Ouch, Bing, Pablo, Andy and the Band. He has also worked in mainstream media on shows such as Red Dwarf, Dragons’ Den, Rough Guides, The Late Show, The Word, Chelsea Flower Show and across multiple platforms from Television, Games, Play-along, immersive storytelling, audio and digital short-form content. He’s an innovator, ideas developer and Producer and team player and a leader.
He now heads up a consultancy Unstoppable Creative Media, developing brilliant ideas alongside great people.

David Jackson

Cyfarwyddwr

An experienced, enthusiastic arts professional who has worked as an executive producer, director, producer and commissioner in the fields of television, radio and online; Artistic Director and Managing Director of a number of musical organisations, and at a senior level in Higher Education. Always interested in work with enough scope for my creative and managerial talents. David is the Artistic Director of BBC Cardiff Singer of the World.

Susan Roberts

Cyfarwyddwr

Mae gan Susan flynyddoedd o brofiad mewn llywodraethu corfforaethol, gan gynnwys swydd fel cyfarwyddwr o fewn y Gwasanaeth Iechyd. Bu hefyd yn gyfarwyddwr sawl corff elusennol, felly mae ganddi ddealltwriaeth eang o effaith uniongyrchol prosiectau cymunedol a’r ffordd y gall prosiectau addysgiadol a cherddorol greu newid er gwell o fewn cymdeithas.


Rhian Jenkins

Ymgynghorydd Addysgol

Mae Rhian yn bennaeth cerdd ac yn athrawes celfyddydau mynegiannol. Mae hefyd yn gyfeilyddes ac arweinyddes, ac yn llunio cynnwys i’r cwricwlwm ar gyfer gwahanol sefydliadau.

Carys Jennings

Ymgynghorydd Cwricwlwm

Roedd Carys yn athrawes ysgol gynradd am flynyddoedd cyn dod yn uwch-ddarlithydd ym maes hyfforddi athrawon. Mae ganddi MA mewn Addysg Gynnar ac ar hyn o bryd mae’n astudio ar gyfer ei doethuriaeth. Mae’n credu’n gryf y dylai plant gael pob math o brofiadau, yn arbennig rhai creadigol o fewn y celfyddydau.

Rebecca Kennedy

Consultant

Rebecca Kennedy is an independent English consultant. She has a range of experience teaching and supporting primary schools across the sector. Rebecca works as an associate consultant with the Centre for Literacy in Primary Education (CLPE) and with the Open University as a consultant for research-based work on their Reading for Pleasure project. Her professional interests are children’s reading and writing and children’s literature. She has contributed to several United Kingdom Literacy Association publications and is on the editorial board of English 4-11. Rebecca is a committee member of the National Association of Advisers in English (NAAE) and a member of the Academic Advisory Board for Bookmark (volunteer reading charity).

Lorraine King

Cantores a Chyfansoddwraig Caneuon

Mae Lorraine yn gantores a chyfansoddwraig caneuon arobryn, ac wedi ennill ‘Cân i Gymru’, y wobr Ban-Geltaidd a’r Gystadleuaeth Gyfansoddi Ryngwladol. Mae’n cyfrannu’n gyson at ‘Word of the Week’ ar gyfer BBC Radio Wales a ‘Pause for Thought’ ar BBC Radio 2. Mae Lorraine yn gweithio’n agos â’r Gymdeithas Alzheimer ac mae’n deall pwysigrwydd cerddoriaeth o ran adloniant ac iachâd.

John Quirk

Ymgynghorydd Cerdd – Trefnydd

Mae gan John gyfoeth o dalent a phrofiad fel Cyfarwyddwr Cerdd, trefnydd cerddorol, cyfansoddwr ac arweinydd.

Mae’n gweithio’n rheolaidd fel cyfarwyddwr cerdd i Syr Bryn Terfel, Vanessa Mae, Cerys Matthews a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, ymhlith eraill.

Kim Waldrock

Ymgynghorydd Addysg a Chelfyddydau

Bu Kim, sy’n wreiddiol o Awstralia, yn dysgu cerddoriaeth yn yr ystafell ddosbarth am 22 mlynedd. Kim fu’n llunio’r rhan ar gerddoriaeth yng Nghwricwlwm Cenedlaethol Awstralia, ac yna daeth yn gyfarwyddwr dysgu i Gerddorfa Simffoni Sydney. Yn 2015 ymunodd â’r Tŷ Opera Brenhinol yn Covent Garden i arwain ei adran addysg. Bellach, mae Kim yn defnyddio ei harbenigedd ym maes addysg, datblygu cwricwlwm a’r celfyddydau perfformio fel ymgynghorydd, yn dysgu a datblygu rhaglenni penodol yn y DU, Ewrop ac Awstralia. Mae Kim yn aelod etholedig o Gyngor Addysg Gerddorol y DU, yn asesydd ansawdd ar gyfer Cyngor Celfyddydau Lloegr, ac yn Ymddiriedolwr o’r Academi o Gerddoriaeth Hynafol.


Sian Davies

Cyfeilydd – Arweinydd Gweithdy

Mae Sian yn athrawes gynradd gymwysiedig, a hefyd yn gyfeilyddes uchel ei pharch. Ynghyd â chyfeilio i nifer o gorau meibion de Cymru, mae Sian wedi cydweithio â nifer o enwogion y byd cerddoriaeth glasurol. Hyfforddwyd Sian yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a WIAV.

Ros Evans

Soprano – Arweinydd Gweithdy

Daw Ros yn wreiddiol o Abertawe. Cafodd ei haddysg yng Ngholeg y Brenin, Llundain, ac yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Bu’n canu efo Opera Cenedlaethol Cymru am y tro cyntaf yn 2004 yn Nhŷ Opera Sydney. Mae’n hyfforddwraig lleisiol uchel ei pharch ac yn gwneud llawer o waith gyda henoed sydd â dementia.

Victoria Joyce

Soprano – Arweinydd Gweithdy

Graddiodd Victoria o’r Royal Northern College of Music, ac yn 2003 canodd am y tro cyntaf gyda Chwmni Opera Cenedlaethol Lloegr. Ers hynny mae Victoria wedi canu ledled y byd yn canu rhannau fel Brenhines y Nos yn Die Zauberflöte gan Mozart. Mae Victoria hefyd yn fodel ac yn athrawes ioga gymwysiedig.

Rachel Morás

Mezzo Soprano – Arweinydd Gweithdy

Daw Rachel o Bort Talbot ac mae wedi graddio o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Mae ei rhannau operatig yn amrywio o’r hudoles Carmen i’r concweror Iwl Cesar. Mae Rachel yn athrawes gymwysiedig ac mae ganddi brofiad o ddysgu plant ac oedolion o bob oed. Cymraeg yw ei hiaith frododol.

Aled Powys Williams

Bariton – Arweinydd Gweithdy

Mae Aled wedi graddio o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ac yn enillydd Classical Brit Award. Mae’n gyn-aelod o Only Men Aloud a enillodd cystadleuaeth Last Choir Standing y BBC.

Camilla Roberts

Soprano – Arweinydd Gweithdy

Cynrychiolydd Camilla Gymru yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd ac mae wedi cael perthynas agos ag Opera Cenedlaethol Cymru a Glyndebourne drwy gydol ei gyrfa. Mae wedi dysgu mewn unedau ymddygiadol niferus ac mae’n gynorthwydd dosbarth cymwysiedig.

Jess Robinson

Soprano – Arweinydd Gweithdy

Graddiodd Jess ag anrhydedd o gwrs opera MA Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Mae bellach yn soprano llawrydd ac mae wedi perfformio’n rhyngwladol yn ogystal â’r DU mewn llefydd fel Neuadd Albert a Phalas Buckingham. Mae Jess hefyd yn arweinydd lleisiol gyda Only Boys Aloud ac elusennau Forget Me Not.

Emily Rooke

Soprano – Arweinydd Gweithdy a Thiwtor Makaton

Mae Emily yn soprano sydd wedi’i hyfforddi yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn ogystal â’r Swistir a’r Eidal drwy’r Academi Opera Ewropeaidd. Roedd hi’n un o interniaid Vocal Animateur cyntaf i gael ei hyffordi gyda Chwmni Opera Cenedlaethol Cymru, ac mae’n ceisio sicrhau bod opera yn hygyrch i bawb!

Dalma Sinka

Mezzo Soprano – Arweinydd Gweithdy a Thiwtor Makaton

Graddiodd Dalma o’r Royal Birmingham Conservatoire. Fe’i hyfforddwyd fel Vocal Animateur dan gynllun interniaeth Opera Cenedlaethol Cymru – yr interniaeth gyntaf o’i bath, ac mae wrth ei bodd yn cael rhannu ei mwynhad o’r opera a gwneud cerddoriaeth yn hygyrch i bawb.

Joanne Thomas

Mezzo Soprano – Arweinydd Gweithdy

Astudiodd Jo yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ac yn yr Academi Gerdd Frenhinol. Bu’n cynrychioli Cymru yng Nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd ac mae ei llais cyfoethog wedi sicrhau ei bod yn perfformio ledled y byd. Mae’n hyfforddwraig lleisiol uchel ei pharch.

Meryn Williams

Cyfeilydd – Arweinydd Gweithdy

Astudiodd Meryn yng Ngholeg Prifysgol Caerdydd. Mae’n mwynhau gweithio ym mhob genre cerddorol yn ogystal â rhannu cerddoriaeth â’r genhedlaeth nesaf. Mae’n arwain dau gôr ac yn gweithio i’r Academi Ddawns Frenhinol fel pianydd mewn arholiadau. Mae’n angerddol am bwysigrwydd therapi cerdd.