Ein Hamcan

Mae ABC yr Opera yn cynnig gwersi bywyd amhrisiadwy drwy gyflwyno mewn ffordd hwyliog holl elfennau hynod a gwahanol rai o gyfansoddwyr mwyaf y byd, ynghyd â’u cerddoriaeth. Mae hyn yn magu hyder, yn dathlu gwahaniaethau ac yn annog addysg greadigol.

Drwy astudio’r gerddoriaeth rymus hon a’i chyfansoddwyr, a hynny mewn ffordd ddifyr, mae ABC yr Opera yn helpu pobl ifanc o bob cefndir i ddatblygu’n unigolion hyderus, yn barod i fentro a chael mwynhau bywyd llawn.

Cyflwynwyd ein gweithdai cynhwysol mewn 197 o ysgolion drwy’r DU – i ryw 9,800 o blant. Mae gofalu bod plant yn cymryd rhan yn ganolog i’r prosiect, ac mae ymchwilio i storïau a cherddoriaeth rhai o gyfansoddwyr mwya’r byd yn ffordd wych o fagu hyder plant, tanio eu dychymyg, a’u cael i ddathlu’r amrywiaeth yn ein cymdeithas. Felly rho dro i’r glob a chychwyn ar y siwrne i Academi Benwan y Cyfansoddwyr.


Ein Hymrwymiad i Chi

  • I ddarparu llwybr i gefnogi’r cynnydd drwy’r continwwm dysgu (Blynyddoedd 3–11).
  • I ddeall hunaniaeth y plentyn, ei iaith/ieithoedd, ei allu a’i gefndir, a’r gefnogaeth fydd ei hangen arno.
  • I annog defnyddio’r dychymyg a’r gallu creadigol drwy gynnal y gweithdy.
  • I gefnogi ac ymchwilio ymhellach drwy gyfrwng llyfrau ABC yr Opera, gyhoeddwyd gan Graffeg – clawr caled, fersiwn sain neu e-lyfr.